Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 18 Hydref 2021
Amser:
10.35 -
12.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12557
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
David Rees AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Janet Finch-Saunders AS Peredur Owen Griffiths AS Rhianon Passmore AS |
Tystion: |
Bob Posner, Comisiwn Etholiadol Kieran Rix, Comisiwn Etholiadol Dame Elan Closs Stephens CBE, Comisiwn Etholiadol Rhydian Thomas, Comisiwn Etholiadol |
Staff y Pwyllgor: |
Alun Davidson (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Joyce Watson a dirprwyodd Rhianon Passmore ar ei rhan.
1.3 Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.4 Er y bydd munud o dawelwch yn ystod trafodion Cyfarfod Llawn yr wythnos hon er cof am Syr David Amess AS, roedd y Cadeirydd am fynegi cydymdeimlad y Pwyllgor.
2 Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2022/23 a'i gynllun pum mlynedd
2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Comisiwn Etholiadol i'r cyfarfod a diolchodd iddo am gyflwyno ei amcangyfrif ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23 a'i gynllun pum mlynedd yn gynnar.
2.2 Holodd y Pwyllgor y Comisiwn Etholiadol yn fanwl ar ei amcangyfrif ariannol ar gyfer 2022-23 a'i gynllun corfforaethol pum mlynedd.
2.3 Nododd y Pwyllgor femorandwm gan y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol ar gynnydd y Comisiwn Etholiadol wrth ymgysylltu â phleidleiswyr ifanc yng Nghymru, mater sydd o ddiddordeb arbennig i'r Senedd ar ôl gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau’r Senedd a llywodraeth leol yng Nghymru.
2.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog ar yr amcangyfrif a'r cynllun fel rhan o'r ymgynghoriad sydd ei angen o dan baragraff 16A(8)(b) o Atodlen 1 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
3.1 Derbyniwyd y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod o dan Reol Sefydlog 17.42(vi).
4 Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2022/23 a'i gynllun pum mlynedd: Trafod y dystiolaeth
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.